Mae colli Merêd yr ergyd fawr i Gymru gyfan, ac yn arbennig felly i Eos – y corff casglu annibynnol sydd yn ei blentyndod. Roedd Merêd yn Llywydd Anrhydeddus ar Eos, ac roedd ei arweiniad, ei gefnogaeth a’i anogaeth yn ysbrydoliaeth i ni i gyd. Pan oedd y gwaith cyfreithiol yn pentyrru arnom o Lundain, neu rwystrau di-ri yn ein hwynebu, yna byddai galwad ffôn gyda’r nos gan Merêd yn codi’n hysbryd, ac yn ein hysbrydoli i gario ‘mlaen.
Roedd yn bleser ei weld yn ein cyfarfodydd cyffredinol, ac roedd ei gyngor doeth yn ein cadw ar y trywydd iawn, er mwyn cyrraedd y nod o sefydlu corff casglu annibynnol.
Bydd colled fawr ar ei ôl, ond bydd ei waith wedi cyfoethogi diwylliant ein cenedl.
Dafydd M Roberts
Comments