top of page

eos

Beth mae Eos yn ei wneud?
What we do?

Fel asiantaeth hawliau darlledu gwaith Eos ydi casglu a dosbarthu breindaliadau darlledu i’w haelodau. Bydd hyn yn digwydd pedair gwaith y flwyddyn gyda’r taliadau yn digwydd tua 6-8 wythnos ar ôl pob taliad PRS.

 

Pob blwyddyn mae darlledwyr yn talu ffi trwydded i Eos am yr hawl i ddarlledu gweithiau ei haelodau. Er mwyn rhedeg ei gweinyddiaeth, ar hyn o bryd mae Eos yn cymryd comisiwn o 20% o bob ffi trwydded sy’n cael ei dalu. Mae’r comisiwn hwn yn talu am gostau swyddfa’r weinyddiaeth, am gyflogau staff ac unrhyw gostau eraill sy’n gysylltiedig â gwaith yr asiantaeth.

Unwaith mae Eos wedi casglu ffi trwydded gan ddarlledwr, mae wedyn yn mynd ati i rannu’r ffi rhwng ei haelodau. Ni fydd unrhyw daliad yn cael ei wneud i aelod hyd nes i gyfanswm ei freindal gyrraedd £10 neu fwy. Mae faint mae aelod yn cael ei dalu yn dibynnu ar faint o ddefnydd sydd wedi cael ei wneud o’i weithiau. Mae hyn yn cael ei alw’n broses ddosrannu:

1. Mae PRS yn casglu data am ddefnydd repertoire Eos gan ddarlledwyr teledu a radio trwy gydol Prydain ...

As a broadcasting rights agency, Eos's job is to collect and distribute broadcast royalties to its members. This happens four times a year with payments occurring approximately 6-8 weeks after each PRS payment.

 

Each year broadcasters pay Eos a license fee for the right to broadcast its members' works. In order to run its administration, Eos currently takes a commission of 20% of all license fees paid. This commission covers the administration office costs, staff salaries and any other costs associated with the work of the agency.

Once Eos has collected a license fee from a broadcaster, it then proceeds to split the fee between its members. No payment will be made to a member until his or her total royalty has reached £ 10 or more. How much a member is paid depends on how much use has been made of his/her's registered works. This is called the apportionment process:

1. PRS collects data on the use of the Eos repertoire by television and radio broadcasters throughout Britain ...

2. ... a phob tri mis mae PRS yn rhoi’r data yma i Eos ...
2. ... and every three months PRS provides this data to Eos ...

3. Ar ôl i Eos dderbyn y data, yn gyntaf mae’n rhaid chwynnu unrhyw gamgymeriadau a cham gofnodion, a chywiro pethau fel enwau caneuon ac artistiaid ... 

3. Once Eos has received the data, we first have to correct any mistakes and mis-records, and correct things like song names and artists ...

4. Bydd y cywiriadau hyn wedyn yn cael eu pasio yn ôl i PRS er mwyn iddyn nhw gywiro eu bas data. Mae’n bosibl i aelodau Eos gynorthwyo yn y gwaith hwn drwy gadarnhau fod y cofnod o’u gweithiau ar fas data PRS yn gywir. Gweler y dudalen berthnasol am fwy o fanylion ...
4. These corrections will then be passed back to PRS for correction of their database. It is possible for Eos members to assist in this work by confirming that the record of their works on the PRS database is accurate. See the relevant page for more details ... 
5. Mae Eos wedyn yn rhannu’r ffi trwydded (ar ôl comisiwn) gan faint o funudau o repertoire Eos mae darlledwr wedi defnyddio. Er enghraifft, os ydi darlledwr X yn talu ar ôl comisiwn £100,000 fel ffi trwydded am flwyddyn, bydd Eos yn rhannu’r £100,000 dros bedwar chwarter y flwyddyn, sef £25,000 pob 3 mis ... 
5. Eos then divides the license fee (after commission) by how many minutes of Eos repertoire a broadcaster has used. For example, if broadcaster X pays a commission of £ 100,000 as a license fee for a year, Eos will split the £ 100,000 over four quarters of the year, which is £ 25,000 every 3 months ...

6. Os ydi data PRS yn dangos fod darlledwr X wedi defnyddio 5,000 o funudau o repertoire Eos mewn chwarter, mae Eos yn rhannu ffi trwydded y chwarter (£25,000) gyda munudau defnydd y chwarter (5,000). Mae hyn yn rhoi graddfa funud darlledwr X am y chwarter hwnnw, sef £5. 

Bydd gan bob darlledwr gwahanol raddfa funud gwahanol pob chwarter yn dibynnu ar eu ffi trwydded a faint o ddefnydd maen nhw’n gwneud o repertoire Eos ...

6. If PRS data shows that broadcaster X used 5,000 minutes of Eos repertoire in a quarter, Eos divides the quarter's license fee (£ 25,000) by the use minutes of the quarter (5,000). This gives broadcaster X's minute rate for that quarter at £ 5.

Each different broadcaster will have a different minute rate each quarter depending on their license fee and how much use they make of the Eos repertoire ...

7. Ar ôl darganfod graddfa funud y chwarter,

mae Eos yn edrych ar faint o funudau y defnyddiwyd pob gwaith unigol. Er enghraifft, os ddaru ddarlledwr X ddarlledu gwaith am gyfanswm o 23 munud mewn chwarter, bydd y gwaith hwnnw yn ennill 23 gwaith graddfa funud darlledwr X, sef £115 ... 

7. After finding the quarter minute scale, Eos looks at how many minutes each individual work was used. For example, if broadcaster X broadcast a work for a total of 23 minutes in a quarter, that work will earn 23 times X broadcaster's minute rate of £ 115 ...

8. Unwaith mae ffi trwydded pob darlledwr am y charter wedi cael ei rannu rhwng y gweithiau a ddefnyddiwyd yn ystod y chwarter hwnnw, mae Eos wedyn yn edrych ar ba aelodau sy’n hawlio ar y gweithiau hynny. Er enghraifft, gyda’r gwaith a ddarlledwyd am 23 munud, os oes yna 2 aelod o Eos yn eiddo hanner yr hawliau yr un, bydd enillion y gwaith yn cael eu rhannu rhwng y ddau, sef £115 ÷ 2 = £57.50 yr un ...
8. Once each broadcaster's license fee for the charter has been split between the works used during that quarter, Eos then looks at which members claim on those works. For example, with the work broadcast for 23 minutes, if there are 2 members of Eos owning 50% of the rights each, the proceeds of the work will be split between the two, which is £ 115 ÷ 2 = £ 57.50 each ...
9. Bydd Eos yn gwneud hyn ar gyfer pob gwaith sy’n cael ei ddefnyddio gan ddarlledwr, ac yn dosbarthu cyfanswm y breindal i aelod drwy ei dalu’n uniongyrchol i’w gyfrif banc. 
9. Eos will do this for every work used by a broadcaster, and distribute the total royalty to a member by paying it directly into their bank account.
bottom of page