top of page

eos

Cronfa Nawdd 
Grant Fund
2022
Mae Eos – Yr Asiantaeth Hawliau Darlledu, wedi sefydlu elusen o’r enw Cronfa Nawdd Eos fydd yn cynnig nawdd er budd y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.

Mae’r alwad agored hon, Cronfa Nawdd Eos, yn gwahodd cynigion ar gyfer cynlluniau eithriadol fydd yn cyfrannu i lwyddiant y diwydiant cerdd yn Nghymru. Mae Cronfa Nawdd Eos yn cefnogi cynlluniau cyffrous fydd yn ysbrydoli cerddorion, cyfansoddwyr, artistiaid, hyrwyddwyr, trefnwyr a chynhyrchwyr o bob rhan o Gymru i gyfrannu i’r diwydiant cerdd.

Mae’r alwad ar agor i geisiadau am hyd at £1,000 (hyd at 70% o gyfanswm y costau) i gefnogi gweithgaredd yn ystod y 12 mis yn cychwyn o ddyddiad cadarnhau llwyddiant y cais. Mae’r arian sy’n cael ei gynnig yn arian preifat, ac nid yn rhan o unrhyw gynllun neu gronfeydd y Llywodraeth na’r Loteri.  Gall yr arian felly gael ei ddefnyddio fel arian cyfatebol (match funding) ar gyfer unrhyw gais arall.

Meddai Dafydd Roberts ar ran Bwrdd Eos, “Y bwriad yw ceisio cynorthwyo’r diwydiant cerddorol Gymraeg drwy gynnig nawdd mewn ffordd syml a didrafferth, a heb y rhwystrau arferol."

DYDDIAD CAU

25/11/22

5pm

Eos – The Broadcasting Rights Agency, has established a charity called Cronfa Nawdd Eos (the Eos Grant Fund) that will offer sponsorship for the benefit of the Welsh music industry.

 

This open call, Cronfa Nawdd Eos, invites proposals for exceptional schemes that will contribute towards the success of the music industry in Wales. Cronfa Nawdd Eos supports exciting schemes that will inspire musicians, composers, artists, promoters, organisers and producers from across Wales to contribute to the music industry.

The call is open to applications for up to £1,000 (up to 70% of the total costs) to support activity during the 12 months commencing from the date on which the success of the application is confirmed. The funding on offer is private funding, and does not form part of any scheme or funds from either the Government or the Lottery. The money can therefore be used as match funding for any other application.

Dafydd Roberts, on behalf of the Eos Board, said, “The intention is to support the Welsh music industry by offering a grant in as simple a way as possible without the usual obstacles."

 

 

CLOSING DATE

25/11/22

5pm

bottom of page