top of page
  • ynyrgr

CYTUNDEB NEWYDD RHWNG EOS A’R BBC / NEW CONTRACT BETWEEN EOS AND THE BBC.

Mae Eos a’r BBC yn falch o gyhoeddi fod y telerau ar gyfer cytundeb ‘blanced’ ar gyfer hawlfreintiau darlledu cerddoriaeth wedi eu cytuno.



Mae’r BBC ac Eos yn ymfalchïo yn llwyddiant y trafodaethau sydd wedi arwain at gytundeb fydd yn golygu sefydlogrwydd a sicrwydd i’r ddau gorff am gyfnod o bum mlynedd. Mae’r cytundeb, sy’n cynnwys trwyddedu holl wasanaethau darlledu’r BBC ar draws y Deyrnas Unedig, yn cynnwys y gwasanaeth newydd, Radio Cymru 2 pan fydd yn cychwyn darlledu ar Ionawr 29ain 2018.


Dywed Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: “Mae cadarnhau’r cytundeb allweddol hwn gydag Eos am y pum mlynedd nesaf yn newyddion da dros ben. Mae’n gwrandawyr yn mwynhau’r arlwy eang o gerddoriaeth Gymraeg ar BBC Radio Cymru ac wrth gwrs, o fis Ionawr ymlaen fe fydd cerddoriaeth yn rhan greiddiol o ddarpariaeth Radio Cymru 2.”


Meddai Dafydd Roberts, ar ran Eos: “Mae hyn yn ddigwyddiad hanesyddol, ac yn cadarnhau’r berthynas glos a’r cydweithio sydd wedi bod yn ddiweddar rhwng y diwydiant cerdd yng Nghymru a’r darlledwr.”


 —————————————————————————————


Eos and the BBC are happy to announce that the terms for a new blanket agreement for music broadcasting rights have been agreed.


The BBC and Eos are both proud of the success of the negotiations that have led to an agreement that means stability and security for both parties for a period of five years. The agreement, which covers all of the BBC’s broadcasting services across the UK, also covers the new radio service Radio Cymru 2 when it is launched on January 29th 2018.


Betsan Powys, Editor, BBC Radio Cymru said: “Confirmation of this key agreement with Eos over the next five years is great news. Our listeners enjoy the broad range of Welsh language music on BBC Radio Cymru, and of course, from January onwards, music will be an integral part of the Radio Cymru 2 line-up.”


Dafydd Roberts, on behalf of Eos said: “This is a historic moment, and it confirms the cooperation and close working relationship that has existed recently between the music industry in Wales and the broadcaster.” 

42 views0 comments
bottom of page