Yn gwasanaethu'r diwydiant cerddoriaeth
yng Nghymru ers 2012
Mae Eos yn gymdeithas gasglu sy'n ymdrechu i sicrhau breindaliadau darlledu teg i awduron, cyfansoddwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru
Ynglŷn ag Eos

…yn asiantaeth hawliau darlledu sy’n gwasanaethu awduron, cyfansoddwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru.

…ffurfiwyd yn 2012 i sicrhau breindaliadau tecach ar gyfer gweithiau ei aelodau drwy ddelio’n uniongyrchol â darlledwyr.

…yn casglu ac yn dosbarthu breindaliadau darlledu i’w aelodau. Mae hyn yn golygu ein bod yn casglu ar weithiau sydd wedi cael eu chwarae ar y radio neu ar y teledu.

…bellach yn gofalu am hawliau darlledu dros 400 o awduron, cyfansoddwyr a chyhoeddwyr ac wedi dosbarthu bron i £2.5m i’w ddeiliaid hawliau.

Pam Ymuno ag EOS?
Ers ei sefydlu yn 2012 mae Eos wedi gallu:
- Cyfraddau breindaliadau uwch – Cyfraddau breindaliadau Eos ar gyfer BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales ac S4C yw'r gorau sydd ar gael nawr.
- Asiantaeth sy'n cael ei rhedeg gan, ac ar gyfer, ei aelodau yw Eos, gyda chyfansoddwyr a chyhoeddwyr profiadol yn eistedd ar ei bwrdd.
- Os ydych chi'n gyfansoddwr neu'n gyhoeddwr cerddoriaeth a ddefnyddir gan ddarlledwyr yng Nghymru, mae'n debygol iawn y byddai ymuno ag Eos yn cynnig breindaliadau gwell i chi.
Sut mae'n gweithio?



Ein partneriaid

